Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

27 Mawrth 2017

SL(5)076 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ardrethu annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) o ran Cymru.

Maent yn ail-wneud, o ran Cymru, ddarpariaethau Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gweinyddir ardrethi annomestig ar wahân i’w gilydd yng Nghymru a Lloegr ac y cymhwysir rhan III o Ddeddf 1988 ar wahân i Gymru a Lloegr fel y darperir gan adran 140 o Ddeddf 1988.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 6 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:10 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017

SL(5)077 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2006 (cyfrifo ffioedd) drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 1, Band 2 a Band 3.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Fe’u gwnaed ar: 8 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:10 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017

SL(5)078 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 mewn cysylltiad â ffioedd am geisiadau tybiedig ac yn ei gwneud yn ofynnol—

(a) i Weinidogion Cymru anfon copi o’r hysbysiad sy’n pennu’r amser ar gyfer talu’r ffi at yr awdurdod perthnasol ar yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad at yr apelydd;

(b) i’r awdurdod perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru pan fydd y ffi wedi ei thalu neu os nad yw’r ffi wedi ei thalu yn yr amser penodedig.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe'u gosodwyd ar:10 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)079 – Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o achosion y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn mewn cysylltiad â hwy. Gall y weithdrefn fod ar ffurf ymchwiliad lleol, gwrandawiad neu sylwadau ysgrifenedig, neu unrhyw gyfuniad o’r tair ffurf honno y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

Effaith y Gorchymyn yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn mewn cysylltiad ag apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990

Fe'i gosodwyd ar:10 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)080 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Diwygio Lles) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007. Maent yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno trothwyon ar gyfer personau sy’n cael credyd cynhwysol os ydynt i fod yn gymwys i gael ad-daliad o dreuliau teithio a chymorth mewn cysylltiad â chostau penodol sy’n ymwneud ag iechyd.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Fe’u gwnaed ar: 8 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:10 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar:1 Ebrill 2017

SL(5)083 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Diwygio Lles) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau y Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2016.

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu ei bod yn drosedd i allyrru mwg o simnai adeilad neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu waith diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Fodd bynnag, trwy rinwedd adran 20(3), mae’n amddiffyniad i brofi bod yr allyriad honedig wedi’i achosi gan ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r holl danwyddau sydd ar hyn o bryd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru ar ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Aer Glân 1993

Fe’u gwnaed ar:15 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:17 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar:7 Ebrill 2017